13 Chwefror 2014
Wrth i ddathliadau’r flwyddyn newydd Tsieineaidd ddirwyn i ben, mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn falch o gyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau a fydd yn canolbwyntio ar gysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a dwyrain Asia.
Ddechrau mis Mawrth, fe fydd un o awduron Silff Lyfrau 2014, Francesca Rhydderch, yn ymddangos yng ngŵyl The Beijing Bookworm International Festival, i drafod ei nofel, The Rice Paper Diaries (Seren, 2013), sydd wedi gosod yn rhannol yn Hong Kong yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Korea fydd ffocws Ffair Lyfrau Llundain a gynhelir eleni rhwng Ebrill 8-10fed. Fel un o bartneriaid allweddol y Ganolfan Gyfieithu Lenyddol, bu Cyfnewidfa Lên Cymru yn ganolog i ddatblygiad y rhaglen gyffrous a gweithgaredd y ganolfan.
Bydd Cyfnewidfa Lên Cymru mewn cydweithrediad â’r Cyngor Prydeinig yn dod â blas o fwrlwm Ffair Lyfrau Llundain i Gymru ddydd Gwener, Ebrill 11eg 2014. Mewn noson arbennig yn Ystafell Seddon, Prifysgol Aberystwyth fe fydd Lee Seung-U, un o awduron pwysicaf ac adnabyddus De Korea yn trafod ei waith, ei syniadaeth a’r hyn sy’n ei ysgogi gyda Francesca Rhydderch. Fe fydd y noson yn cychwyn am 6:00yh ac yn agored i bawb, gyda thocynnau ar gael trwy post@cyfnewidfalen.org am £5/£3 y pen. Bydd derbyniad gwin i ddilyn.
I ddathlu cyhoeddi rhifyn arbennig o’r cylchgrawn Tsieineaidd Foreign Literature and Art, sy’n canolbwyntio’n llwyr ar lenyddiaeth a chelf Cymru, bydd Cyfnewidfa Lên Cymru ac Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Bangor yn cynnal symposiwm ar gyfnewid llenyddol a chyhoeddi rhwng Cymru a Tsiena, ddydd Gwener, Mai’r 2il, 2014.
Fel rhan o’r symposiwm, fe fydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn croesawu cynrychiolwyr o Shanghai Translation Publishing House i Gymru. Shanghai Translation Publishing House yw’r wasg sy’n cyhoeddi’r nifer mwyaf o gyfrolau llenyddiaeth byd yn Tsieina. Yn ystod eu hymweliad â Chymru, fe fydd y Gyfnewidfa yn trefnu cyfres o gyfarfodydd rhwng cynrychiolwyr y wasg a rhai o olygyddion ac awduron amlycaf Cymru.
Edrychwn ymlaen i edrych tua’r dwyrain a darganfod mwy.