Cyfieithu Dylan Thomas i'r Facedoneg

Cyfieithu Dylan Thomas i'r Facedoneg

03 Mai 2016

888 31 0 16 12 4 2016 Screen Shot 2016 04 12 at 15 59 38

Cyfieithiad o waith Dylan Thomas yw’r ychwanegiad diweddaraf at ein llyfrgell cyfieithiadau yma yn Aberystwyth. Newydd ei gyhoeddi mewn Macedoneg mae’r casgliad o straeon byrion Portrait of the Artist as a Young Dog. Cyfieithwyd y deg stori gan Kosta Bojcheski ac mae’r llyfr, sy’n gyhoeddiad gan wasg Ars Lamina ym Macedonia, yn rhan o gyfres o glasuron modern. Cyhoeddwyd y gyfrol gyda chymorth gan Gyfnewidfa Lên Cymru.

Cyhoeddiad diweddar arall yw’r cyfieithiad Hebraeg o ddrama radio Dylan Thomas, Dan y Wenallt, a gyfieithwyd gan Eran Tzelgov ac a gyhoeddwyd gan Schocken Books.

Cynnwys Cysylltiedig