14 Gorffennaf 2016
Caiff llenyddiaeth Gymraeg sylw arbennig yn y rhifyn cyfredol o Chroniques du ça et là, cylchgrawn trwchus a gyhoeddir ym Mharis gan PhB éditions (Ebrill 2016, 288 tud). Ynddo mae erthygl hir feistrolgar yn olrhain hanes ein llenyddiaeth o Ganu Aneurin heibio Dafydd ap Gwilym ac Ann Griffiths at Saunders Lewis, ac yn cynnwys detholion helaeth wedi eu cyfieithu gan awdur yr erthygl, sef Marie-Thérèse Castay. Hithau hefyd a gyfieithodd stori fer gynnar Kate Roberts “Y llythyr” ar gyfer yr un gyfrol. Cerddi Cymraeg cyfoes gan Jodie Jones yw'r trydydd cyfraniad, a'r awdur ei hun (sy’n byw yn Ffrainc) a gyfieithodd y cerddi i'r Ffrangeg. Mae'r un gyfrol yn cyflwyno gwaith o Fwlgaria, Groeg, Hwngari, Latfia, Lithwania, Slofenia a'r Weriniaeth Tsiec.