31 Mawrth 2021
Mae’n bleser gennym gyhoeddi dwy gystadleuaeth gyfieithu: yr Her Gyfieithu a’r Translation Challenge.
Mae’r gystadleuaeth eleni yn canolbwyntio ar y rhanbarth Arabaidd ac yn tynnu sylw at ei hamlieithrwydd. Y ddau fardd y mae eu gwaith i’w cyfieithu yw Asmaa Azaizeh o Balasteina (o Arabeg i Saesneg) a’r bardd ffrancoffôn o Algeria, Samira Negrouche (o’r Ffrangeg i’r Gymraeg). Y beirniaid yw Yasmine Seale a Siân Melangell Dafydd.
Gweler rhagor o wybodaeth ar wefan Wales PEN Cymru.