24 Medi 2013
Am y bedwaredd flwyddyn, mae symposiwm International Translation Day yn dod â'r gymuned gyfieithu at ei gilydd. Mae'n gyfle i gyfieithwyr, myfyrwyr, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, blogwyr ac adolygwyr i drafod y pynciau llosg a'r datblygiadau yn y sector. Yn dilyn llwyddiant y llynedd, cynhelir y symposiwm eleni yn y Llyfrgell Brydeinig. Ymysg y siaradwyr y mae Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Mercator ac Alexandra Buchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.
Gellir llawrlwytho'r rhaglen yma.