21 Mawrth 2013
Mae Mécaniques du ciel (Calmann-lévy, cyf. Marie Boudewyn), cyfieithiad Ffrangeg nofel Tom Bullough, Konstantin, wedi ei dewis ar gyfer rhestr hir gwobr Laure-Bataillon. Cyhoeddir yr enillydd fis Tachwedd 2013. Mae'r wobr yn cael ei dyfarnu i'r cyfieithiad gorau ac mae'r wobr o 15,000 ewro yn cael ei rhannu rhwng yr awdur a'r cyfieithydd.
Mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys Bohumil Hrabal a gyfieithwyd o'r Tsiec gan Claudia Ancelot, Bo Carpelan a gyfieithwyd o'r Swedeg (Ffindir) gan Bjurström ac Albertini, John Updike gan Maurice Rambaud, Hans Magnus Enzensberger a gyfieithwyd o'r Hwngareg gan Georges Arès, W. G. Sebald o'r Almaeneg gan Patrick Charbonneau, Mo Yan o'r Tsinëg gan Noël a Liliane Dutrait, Derek Walcott gan Claire Malroux a Peter Esterhazy o'r Hwngareg gan Agnès Jarfas.
Mae hawliau cyfieithu ar gyfer Konstantin hefyd wedi eu gwerthu ar gyfer Almaeneg (Beck), Hebraeg (Modan), Eidaleg (Piemme), Portiwgaeg (Materia Prima) a Serbeg (Laguna).