CLC a LAF yn Croesawu Adroddiad ar Weithio’n Rhyngwladol

CLC a LAF yn Croesawu Adroddiad ar Weithio’n Rhyngwladol

28 Ebrill 2016

Mae canfyddiadau adroddiad ar waith rhyngwladol yn y sector llenyddiaeth yng Nghymru wedi eu croesawu gan Gyfnewidfa Lên Cymru (CLC) a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (LAF).

Comisiynwyd yr adroddiad gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llenyddiaeth Cymru, a gwnaethpwyd yr adroddiad gan gwmni annibynnol Ymchwil Arad yng Nghaerdydd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (LAF), Alexandra Büchler, fod yr adroddiad yn cynnwys ymchwil gwerthfawr ar y gwaith a wneir i hyrwyddo llenyddiaeth safonol o Gymru ar lwyfan byd eang.

“Mae’n hen bryd i adroddiad o’r fath gael ei wneud sy’n mapio’r sefyllfa bresennol ac yn amlygu arbenigrwydd a llwyddiannau hir-dymor sefydliadau fel LAF a Chyfnewidfa Lên Cymru, tra’n pwysleisio gwerth cydweithio a sefydlu partneriaethau â chyrff a sefydliadau, gan gynnwys partneriaethau ffrwythlon sy’n cysylltu celfyddydau ac addysg,” meddai Ms Büchler.

“Rydym yn croesawu’n benodol gydnabyddiaeth pwysigrwydd a manteision gweithio’n rhyngwladol i’r sin lenyddol yng Nghymru ac i gynulleidfaoedd Cymru. Mae’r pwyslais a geir ar rannu a chyfnewid, yn hytrach nag allforio diwylliannol unochrog, yn dilysu’r dull a fabwysiadwyd gennym o’r dechrau pan sefydlwyd LAF bymtheg mlynedd yn ôl.”

Mae deg prif argymhelliad yr adroddiad yn cynnwys galw am gefnogaeth ychwanegol i Gyfnewidfa Lên Cymru (CLC) – sydd ochr yn ochr â LAF yn Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth – er mwyn ein galluogi i adeiladu ar ein harbenigedd mewn cyfieithu a datblygu rhwydweithiau rhyngwladol.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn gam cyntaf tuag at ddarpariaeth fwy cytbwys ar gyfer llenyddiaeth yng Nghymru, yn seiliedig ar gydnabyddiaeth cyfraniad LAF a CLC dros y blynyddoedd wrth ryngwladoli sin lenyddol Cymru ac ar ein llwyddiant dro ar ôl tro wrth sicrhau cefnogaeth gan yr Undeb Ewropeaidd mewn cyfnod lle mae toriadau i gyllid y celfyddydau wedi ei gwneud hi’n broses hynod o gystadleuol i gael gafael ar gyllid,” ychwanegodd Ms Büchler.

Darllenwch yr adroddiad llawn drwy glicio ar y ddolen isod (Saesneg yn unig)

Gallwch ddarllen ymateb Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llenyddiaeth Cymru ar wefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.