13 Hydref 2015
Bydd y grant o 455,425 Ewro yn cefnogi blwyddyn gyntaf y prosiect Llenyddiaeth Ewrop yn Fyw sydd wedi ei lansio gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau fel arweinydd y llwyfan sydd ag iddo un-ar-bymtheg o aelodau.
Cyhoeddwyd y newyddion nos Fercher 7 Hydref yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, cyn llwyfannu "Words, Words, Words", noson o farddoniaeth amlieithog a drefnwyd gan Ŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru ac a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan feirdd o Gymru, Latfia, Slofenia, Croatia a Sbaen.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu ar y cyd gan Raglen ‘Ewrop Greadigol’ y Comisiwn Ewropeaidd, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Celfyddydau Cymru ac 16 aelod Platfform Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau. Cyfanswm gwerth y prosiect yw €570,000.
Drwy brosiect Llenyddiaeth Ewrop yn Fyw bydd Platfform Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn:
Yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect trefnir mwy na deg ar hugain o ddigwyddiadau yng ngwledydd yr aelodau a fydd yn cynnwys gwaith gan fwy na thri chant o lenorion a phobl broffesiynol. Cynhelir digwyddiadau i gyflwyno llenyddiaeth Ewropeaidd yn Tsieina ac India, a fforwm i ddatblygu cynulleidfa ryngwladol a fydd yn dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol ym maes llenyddiaeth ryngwladol ar draws Ewrop.
Dywedodd Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau: "Mae’n bleser derbyn cefnogaeth Ewrop Greadigol i'n gwaith fel Platfform Ewropeaidd. Bydd prosiect Llenyddiaeth Ewrop yn Fyw yn ein galluogi i ganolbwyntio ar ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ysgrifennu Ewropeaidd o bob math, ac yn arbennig, i gefnogi awduron sy'n dod i'r amlwg, mewn cydweithrediad gyda Chyfnewidfa Lên Cymru, menter arall sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae aelodau ein Platfform, sy’n cwmpasu gwyliau mawr amlwg yn ogystal â rhai llai ar lawr gwlad, yn rhannu eu harbenigedd mewn trefnu digwyddiadau llenyddol ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd am yr elfennau allweddol ar gyfer creu rhaglenni traws Ewropeaidd llwyddiannus. Mae rhannu llenyddiaeth yn ddigidol yn bwnc arall y byddwn yn canolbwyntio arno er mwyn cyrraedd darllenwyr ifanc yn arbennig. Mae ysgrifennu Ewropeaidd yn ffynnu ac rydym yma i'w gynorthwyo i deithio.”
Wrth longyfarch Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a Phrifysgol Aberystwyth ar y dyfarniad, dywedodd Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwy'n falch bod y grant hwn yn cael ei ddyfarnu i'r prosiect 'Llenyddiaeth Ewrop yn Fyw' sy’n cael ei arwain gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae arwain platfform o 16 o asiantaethau llenyddiaeth ar draws gwledydd yr UE yn brawf o ymrwymiad diflino i'r maes ac i'r gwaith sydd wedi'i gyflawni yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.”
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Diwylliant a Chysylltiadau Allanol: "Rydym yn hynod o falch bod Prifysgol Aberystwyth yn arwain y prosiect mawr cyntaf a ddyfarnwyd i sefydliad o Gymru gan Raglen Ewrop Greadigol 2014-2020 yr Undeb Ewropeaidd. Mae gennym record hir o ragoriaeth ym maes cyfieithu diwylliannol a chyfnewid, partneriaethau cynaliadwy ac arloesi. Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar enw da rhagorol Prifysgol Aberystwyth ac yn cynnal proffil uchel Cymru yn rhyngwladol ym maes cyfieithu diwylliannol a chyfnewid.”
Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: “Bydd y cytundeb hwn yn ein galluogi i chwarae rôl sylweddol yn natblygiad cyfnewid creadigol rhyngwladol ac i asesu effaith polisi Ewropeaidd yn y maes hwn. Dyma un o brif amcanion ein strategaeth ymchwil drwy'r Ganolfan Ymchwil Cyfieithiadau Diwylliannol sydd newydd ei sefydlu yn Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol. Mae'n dod â chyfleoedd pwysig i'r sector greadigol yma yng Nghymru ac ar draws Ewrop, ar adeg pan fod gwir angen hwyluso deialog rhyngwladol a chyfnewid diwylliannol.”
Sefydlwyd Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau - Llwyfan Ewropeaidd ar gyfer Cyfnewid Llenyddol, Cyfieithu a Thrafod Polisi yn 2001 o fewn Sefydliad Mercator ar gyfer y Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant (dan gyfarwyddyd yr Athro E H G Jones) ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghymru, y DU, a chafodd ei gefnogi gan grantiau gan Raglen Ddiwylliant yr Undeb Ewropeaidd.
Cafodd prosiect Llenyddiaeth Ewrop yn Fyw ei ddewis fel un o'r tri chynnig o blith bedwar deg saith o dan y llinyn Llwyfannau newydd Rhaglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd. Prif amcanion is-raglen y Llwyfannau yw meithrin symudedd ac amlygrwydd awduron Ewropeaidd, ac yn arbennig y rhai sy'n dod i'r amlwg neu sydd heb dderbyn sylw rhyngwladol, ysgogi rhaglennu pan-Ewropeaidd gwirioneddol, a hyrwyddo gwerthoedd a diwylliannau Ewrop. Dyfarnwyd 455,425.56 Ewro ar gyfer blwyddyn gyntaf y prosiect.
Aelodau'r Platfform sy’n cymryd rhan yn y prosiect yw:
I ddarganfod mwy am Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, ewch i'w gwefan, yma.