14 Tachwedd 2017
Mewn seremoni wobrwyo yn y Tramshed yng Nghaerdydd, nos Lun, 13 Tachwedd 2017, daeth dwy o gyfrolau Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru i’r brig yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn.
Cyflwynwyd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017 i’r gweithiau llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn 2016 yn Gymraeg ac yn Saesneg, a hynny mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol. Gweinyddir y Wobr gan Lenyddiaeth Cymru.
Daeth cyfrol o straeon byrion Caryl Lewis, Y Gwreiddyn (Y Lolfa), i’r brig yng nghategori Ffuglen Gymraeg, ac mae’r gyfrol ar Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa eleni. Enillodd Guto Dafydd wobr Barn y Bobl Golwg360 gyda’i nofel Ymbelydredd (Y Lolfa), a bu’r nofel honno ar Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa yn 2016. Cyrhaeddodd nofel Cynan Jones, Cove, sydd ar y Silff Lyfrau eleni, restr fer yn y categori ffuglen Saesneg.
Enillydd y prif wobrau eleni oedd Cofio Dic gan Idris Reynolds a Pigeon gan Alys Conran.
Derbyniodd enillydd pob categori wobr o £1,000, gyda’r prif enillwyr yn y ddwy iaith yn derbyn £3,000 yn ychwanegol.
Enillwyr Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2017