Llŷr Gwyn Lewis yn teithio i Wlad Pwyl

Llŷr Gwyn Lewis yn teithio i Wlad Pwyl

06 Medi 2017

Stacja Literatura 22 logo 2 473x273

Fe fydd yr awdur a’r bardd, Llŷr Gwyn Lewis, yn teithio i Wlad Pwyl, er mwyn mynychu gŵyl Stacja Literatura 22. Cynhelir yr ŵyl, a sefydlwyd dros ugain mlynedd yn ôl, rhwng Medi 8 - 9fed 2017, yn Stronie Śląskie a Sienna.

Fel rhan o’r ŵyl, a drefnir gan Biuro Literackie, cynhelir gweithdai, trafodaethau, a chyngherddau. Eleni, Bywyd, Cariad a Marwolaeth, yw thema’r ŵyl, gyda phwyslais arbennig ar y berthynas rhwng barddoniaeth a cherddoriaeth gyfoes.

Fe fydd yr ŵyl yn cyflwyno awduron o Wlad Pwyl ac awduron Ewropeaidd, cyfieithiadau Pwyleg newydd o weithiau gan Bob Dylan a Patti Smith, cyhoeddwyr, golygyddion a cherddorion. Bydd mwy na 30 o awduron yn cymryd rhan yn yr ŵyl, yn cynnwys yr awdur Pwyleg nodedig, Olga Tokarczuk.

Fe fydd Llŷr Gwyn Lewis yn ymddangos yn yr ŵyl fel un o Leisiau Newydd Ewrop, ynghyd a thri awdur eraill ddetholwyd i’r rhestr, Asja Bakić, Charlotte Van den Broeck a Bronka Nowicka.

Fe fydd yr ŵyl hefyd yn cynnal cyfres o drafodaethau gyda chyhoeddwyr, golygyddion a threfnwyr digwyddiadau a fydd yn trafod tueddiadau llenyddol newydd ynghyd a datblygiadau diweddar fel rhan o Fforwm Diwylliant Ewrop.

Mae Stacja Literatura 22 yn rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw a gydlynnir gan ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau ac a gefnogir gan Ewrop Greadigol.

Ceir mwy o wybodaeth am yr ŵyl yma.