25 Awst 2015
Fe fydd y gynhadledd, a gynhelir rhwng Medi 14-16 2015, yn ymdrin â'r berthynas rhwng diwylliannau lleiafrifol a theithio, gan edrych yn benodol ar yr ymadawith rhwng teithwyr o bob rhan o'r byd a'r mannau maent yn ymweld â hwy a'i hymateb dogfennol ar hyd y canrifoedd. Mae'n bwnc hynod berthnasol yn dilyn datblygiadau yn yr Alban a Chatalwnia, ble mae hunaniaeth yn cael ei drafod mewn perthynas â hunaniaeth genedlaethol, hunanfynegiant ddiwylliannol a grymoedd gwleidyddol.
Yn ystod y gynhadledd, fe fydd Cyfnewidfa Lên Cymru mewn cydweithrediad a'r prosiect yn cynnal, Teithio dros fôr Iwerydd: Dinasoedd mawrion ac Ynysoedd Preswyliedig, ble bydd Ned Thomas yn sgwrsio gyda'r awdur ac enillydd Gwobr Lenyddol Genedlaethol Sbaen, Kirmen Uribe. Ymysg y pynciau a drafodir bydd ei nofel, Bilbao New York Bilbao, a gyhoeddwyd yng Nghymru gan wasg Seren yn ddiweddar, yn ogystal a'r hyn mae'n ei olygu i fod yn awdur Basgeg yn y Sbaen gyfoes.
Teithio dros fôr Iwerydd: Dinasoedd mawrion ac Ynysoedd Preswyliedig, 14 Medi 2015, am 7:00yh. Mynediad am ddim, tocynau ar gael o wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Am fanylion pellach am y gynhadledd a'r prosiect , ewch i wefan Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru yma.