Enillydd Fedal Yoto Carnegie am Ysgrifennu eleni ydy Manon Steffan Ros, am ei chyfieithiad gwreiddiol o Lyfr Glas Nebo
30 Mehefin 2023
Mae'r nofel Gymraeg hon wedi'i chyfieithu i ddeg iaith bellach, a mwy ar y gweill. Cefnogwyd sawl un o'r rhain gan ein Cronfa Grantiau Cyfieithu. Dyma'r tro cyntaf i gyfieithiad ennill gwobr mawreddog y Carngie.