Cynllun mentora cyfieithwyr

Cynllun mentora cyfieithwyr

20 Medi 2012

Bydd cyfle yn 2013 i gyfieithwyr sy'n cyfieithu llenyddiaeth o'r Gymraeg i'r Saesneg i fod yn rhan o gynllun mentora 2013 y British Centre for Literary Translation (BCLT) a'r Translators' Association.

Lansiwyd y cynllun yn 2011, ac ers hynny mae deuddeg cyfieithydd llenyddol wedi 'graddio' o'r cynllun mewn ieithoedd yn amrywio o'r Gatalaneg i'r Bwyleg. Mae nifer hefyd wedi gweld eu gwaith yn cael ei gyhoeddi o ganlyniad i gysylltiadau a wnaethpwyd a'r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y broses fentora. Comisiynwyd Emily Danby, oedd yn cael ei mentora i gyfieithu o'r Arabeg i'r Saesneg, i gyfieithu The Scent of Cinnamon gan Samar Yazbek, yn ystod ei chyfnod mentora.

Bydd rhaglen fentora 2013 yn cynnig llefydd ar gyfer 13 o ieithoedd ar gyfer y cyfnod Ionawr - Mehefin 2013.

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru a Thŷ Cyfieithu Cymru yn gweithio gyda'r BCLT i greu a chefnogi cynllun mentora Cymraeg->Saesneg 2013. Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi yn fuan. Yr ieithoedd eraill fydd yn rhan o'r cynllun y tro hwn yw Arabeg, Daneg, Is-Almaeneg, Siapaneg, Norwyeg, Pwyleg, Portiwgaeg, Rwsieg, Swedeg a Tamil. I wneud cais, ewch i wefan y BCLT am fwy o fanylion.

Cefnogir y rhaglen fentora gan Sefydliad Calouste Gulbenkian a Sefydliad Foyle, a'r rhaglen Gymraeg gan y Gyfnewidfa a Thŷ Cyfieithu Cymru.