21 Tachwedd 2017
Mae Sefydliad Mercator yn cynnal Mushaira ar Nos Fercher, 22ain o Dachwedd 2017 yn Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth.
Digwyddiad o India yw Mushaira yn wreiddiol. Yno, bydd beirdd yn eistedd mewn cylch ac yn cymryd eu tro i berfformio’u gwaith. Bydd ein Mushaira ni’n dilyn yr un patrwm, gyda chyfraniadau yn y Gymraeg, y Saesneg, Urdu, Hindi, Almaeneg, Siapanaeg, a llawer mwy. Cawn hefyd fwynhau cerddoriaeth fyw gan y band gwerin Deuair.
Trefnir y digwyddiad gan Mohini Gupta, Cymrawd Charles Wallace India Trust gyda'n chwaer sefydliad, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.
Gwahoddir y gynulleidfa i wrando a mwynhau’r farddoniaeth, neu i gyfrannu yn y Mushaira. Gofynnir i'r rhai sy'n dymuno cymryd rhan ddod â dau ddarn na chymerant ddim mwy na 5 munud yr un i’w perfformio. Gallant fod yn gerddi gan feirdd eraill neu’n weithiau gwreiddiol.
Does dim thema benodol i’r Mushaira, ond pwysleisia’r digwyddiad amlieithrwydd ac amlddiwylliannedd, felly croesewir y gorau po fwyaf o ieithoedd ac arddulliau barddonol.
Dechreua’r digwyddiad yn swyddogol am 7:30yh, ond gofynnwn i’r cyfranwyr i gyrraedd am 7yh er mwyn llunio trefn berfformio ar gyfer y noson.
Y pris mynediad i bawb yw £4 y pen. Croeso cynnes i bawb.
Ceir mwy o wybodaeth yma.