Cyfieithiadau newydd

Cyfieithiadau newydd

11 Ebrill 2019

Untitled design1

Dyma'r sawl cyfiethiad newydd a chyffrous rydym wedi derbyn yn ddiweddar, yn sgil ein Cronfa Gyfieithu.

Mae Peach gan Emma Glass, a detholwyd i’n Silff Lyfrau 2018, wedi ei gyfieithu i’r Sbaeneg gan Mariano Peyrou, a'i chyhoeddi gan Sexto Piso.

Cafwyd cyfrol gyntaf Rebecca F. John, The Clown's Shoes, ei gyfieithu i'r Albaneg gan Anisa Trifoni, a chyhoeddwyd gan Ombra GVG.

Cyfieithwyd nofel Jerry Hunter Y Fro Dywyll i'r Fwlgareg gan Daniel Aleksandrov Todorov a'i chyhoeddi gan Matcom Ltd. Roedd Y Fro Dywyll ar y Silff Lyfrau 2015.

Cawsom ddwy gyfrol newydd o’r Eidal: un farddoniaeth ac un nofel. Cyfieithwyd casgliad o farddoniaeth Paul Henry, Boy Running, i’r Eidaleg gan Chiara De Luca a chyhoeddwyd gan Edizioni Kolibris.

Cafwyd nofel Raymond Williams Border Country ei gyfieithu i’r Eidaleg am y tro gyntaf gan Carmine Mezzacappa. Cyhoeddwyd y nofel gyda’r teitl Terra di confine gan paginauno.

Mae Murmur, casgliad barddoniaeth Menna Elfyn, wedi’i chyfieithu i’r Gatalaneg gan Sílvia Aymerich-Lemos. Fel ei chyfrolau arall, mae’r farddoniaeth yn ymddangos yng Nghymraeg wrth ochr y cyfieithiad.

Ceir mwy o wybodaeth am y Gronfa Gyfieithu yma.