Cyfieithiadau newydd

Cyfieithiadau newydd

11 Gorffennaf 2019

Cyfieithiadau Haf2

Dyma rhai o’r cyfrolau mwyaf diweddar i’w cyhoeddi mewn cyfieithiad a chefnogwyd gan ein Grantiau Cyfieithu.

Mae cyfrol Eluned Gramich, Woman Who Brings the Rain wedi’i gyfieithu i’r Arabeg gan Abeldehim Youssef Ramadan a’i chyhoeddi gan Sefsafa Publishing yn yr Aifft.

Cyhoeddwyd cyfieithiad Ffrangeg o nofel Cynan Jones, Cove, gyda’r deitl Vers la baie gan Joelle Losfeld Editions. Mona Pracontal cyfieithodd y gyfrol i’r Ffrangeg.

Detholwyd y ddau lyfr yma i’n Silff Lyfrau yn 2016 a 2017, sef ein casgliad o lenyddiaeth Cymraeg rydym yn hyrwyddo yn rhyngwladol i’w cyfieithu. Gweler Silff Lyfrau 2018 yma.