15 Mawrth 2017
Pwy yw'r awduron mwyaf diddorol sy'n ysgrifennu yn Ewrop heddiw? Cyhoeddir enwau deg o awduron mwyaf cyffrous Ewrop, wedi dethol gan wyliau llenyddol rhyngwladol, yn y Ganolfan Cyfieithu Llenyddol, Ffair Lyfrau Llundain, ddydd Iau, 16 Mawrth 2016 am 2:00yh.
Dros y flwyddyn nesaf, hyrwyddir eu gwaith mewn cyfres o ddigwyddiadau byw a digidol ar draws yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt. Y nod yw adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth ysgrifennu Ewropeaidd ymhob ffurf ac iaith gan gynnig cyfleoedd i'r awduron a ddetholir i ddatblygu gyrfaoedd rhyngwladol.
Mae detholiad Lleisiau Newydd Ewrop yn rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw a gydlynir gan Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, gyda chefnogaeth ariannol Rhaglen Ewrop Creadigol yr Undeb Ewropeaidd.
Lleoliad: Canolfan Cyfieithu Llenyddol, Ffair Lyfrau Llundain