20 Tachwedd 2015
Gyda chyhoeddi Goldfish Memory gan Monique Schwitter yn 2015, mae Parthian wedi cychwyn ar gyfres flaengar o ryddiaith a barddoniaeth gan ferched o chwe gwlad - o Wlad y Basg, Yr Almaen a Slofacia i Rwmania, Twrci - a Chymru. Mae'r cyfrolau eisoes wedi ennill gwobrau a chanmoliaeth, gan gynnwys Gwobr Lleisiau Newydd PEN Rhyngwladol, y Beterriko liburua, y Rotahornpreis ac fwyaf diweddar, Gwobr Gyfieithu PEN.
Bydd dau o awduron Parthian, John Harrison a Rebecca F. John, enillydd Gwobr Lleisiau Newydd PEN Rhyngwladol 2015, yn teithio yn hwyrach y mis hwn gyda Susie Wild, golygydd Parthian, i Ffair Lyfrau Guadalajra yn Mecsico. Y Deyrnas Unedig yw'r wlad wadd eleni, ac fe wahoddwyd yr awduron, ynghyd ag Owen Martell a Mari Griffiths, gan swyddfa'r Cyngor Prydeinig yng Nghymru.