18 Mehefin 2015
Cynhelir noson dair ieithog yn y Poetry Café, Llundain, dan nawdd y Poetry Society nos Wener, 19 Mehefin 2015 i ddathlu cyhoeddi cyfrol Menna Elfyn, Perffaith Nam mewn cyfieithiad Hindi.
Cyfieithwyd y gyfrol gan y bardd, y cyfieithydd a’r golygydd Rati Saxena. Cyhoeddir y gyfrol gan wasg Kritya Publication gyda chefnogaeth grant cyfieithu gan Gyfnewidfa Lên Cymru.
Mae Rati Saxena wedi cyhoeddi 11 casgliad o farddoniaeth mewn Hindi a Saesneg. Mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i’r Eidaleg, y Wyddeleg, Malayalam a’r Saesneg gan feirdd eraill. Mae wedi cyfieithu barddoniaeth a llenyddiaeth o’r Malayam a chyfrolau Norwyeg i’r Hindi, yn ogystal a chyhoeddi erthyglau ar gyfieithu mewn sawl cyfnodolyn. Yn 2000 enillodd wobr Kendriya Sahitya Akademi am gyfieithu.
Yn ystod y noson, fe fydd Menna Elfyn a Rati Saxena yn darllen eu gwaith mewn Cymraeg, Saesneg a Hindi, yn ogystal a thrafod gwaith eu gilydd a’r broses o gyfieithu. Mae’r noson yn cychwyn am 7:00yh gyda mynediad am ddim. Fodd bynnag, dylid e-bostio marketing@poetrysociety.org.uk er mwyn sicrhau tocyn.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Poetry Society.