Pethe ym Mharis – Y Groesffordd Ddiwylliannol

Pethe ym Mharis – Y Groesffordd Ddiwylliannol

11 Rhagfyr 2013

Pethe

Mewn rhifyn arbennig o Pethe, a ddarlledwyd nos Sul, Rhagfyr 8fed 2013, bu’r awdur a’r darlledwr Jon Gower ym Mharis, yn holi un o awduron Silff Lyfrau 2013, Owen Martell.

Symudodd Owen Martell, i Baris i fyw, nol yn 2006. Yn ystod y rhaglen, cafwyd blas ar fywyd pob dydd y nofelydd, wrth ymweld â chaffi ble mae’n ysgrifennu, siop lyfrau, a Parc de Belleville sy’n edrych dros y ddinas. Bu Jon ac Owen hefyd yn trin a thrafod beth sy’n ysbrydoli awdur i ysgrifennu,a’r ffordd mae’r byd o’i gwmpas yn effeithio ar hynny.

Cyhoeddodd Owen Martell, Intermission, ei nofel gyntaf yn Saesneg eleni. Mae’r nofel wedi ei dewis fel un o gyfrolau’r Silff Lyfrau, detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor. Eisoes mae’r nofel wedi ei chyfieithu i’r Ffrangeg dan y teitl Intermède, tra bydd cyfieithiad Almaeneg yn cael ei gyhoeddi flwyddyn nesaf.

Yn cyfrannu i’r rhaglen hefyd bu Sioned Puw Rowlands o Gyfnewidfa Lên Cymru, sy’n rhannu ei hamser rhwng Paris ac Aberystwyth. Bu Sioned yn trafod Paris fel croesffordd ddiwylliannol, gan nodi dylanwad cymaint o gyhoeddwyr ac awduron o bob rhan o’r byd sy’n galw trwy’r ddinas.

Pethe, Nos Sul, Rhagfyr yr 8fed, 2013, 7:30yh, S4C

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, gellir ymweld â gwefan Pethe yma

Gellir ymweld â gwefan Owen Martell yma