Pontydd Cyfieithu: Cyfieithu'n Cysylltu'r Cenhedloedd

Pontydd Cyfieithu: Cyfieithu'n Cysylltu'r Cenhedloedd

31 Ionawr 2017

Wle image

Ar 19 Ionawr cynhaliwyd cynhadledd ar gyfieithu i’r Dyniaethau ac mewn Llenyddiaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Trefnwyd cynhadledd Gymraeg Pontydd Cyfieithu gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Chanolfan Cyfieithu Diwylliannol Prifysgol Aberystwyth, gyda nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gyda golwg ar ddenu myfyrwyr ac ymchwilwyr ym meysydd Hanes, Gwleidyddiaeth, Ieithyddiaeth, Llenyddiaeth a’r Theatr, yn ogystal â chyfieithwyr, roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau oedd yn canolbwyntio ar ddau ffocws – yr academaidd a’r llenyddol.

Roedd sesiynau’r bore’n canolbwyntio ar ochr academaidd cyfieithu, gan amlygu cronfeydd data diweddar o gyfieithiadau fydd yn galluogi ymchwilwyr y dyfodol i gyrchu testunau o’r gorffennol, yr heriau mae cyfieithu yn eu gosod i’r Gymraeg ac ieithoedd bach eraill, a gwerth testunau wedi’u cyfieithu i’r hanesydd. Roedd y prynhawn yn cynnwys awduron a beirdd o Gymru, a fu’n trafod cyfieithu eu gwaith eu hunain, a gwaith awduron eraill, er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac adeiladu pontydd at ddiwylliannau eraill, a’r heriau a’r ystyriaeth ddiwylliannol sy’n wynebu awduron wrth gyfieithu.

Roedd siaradwyr unigol ar y dydd yn cynnwys yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, a siaradodd am her cyfieithu gweithiau allweddol i’r Gymraeg ac i ieithoedd llai a Dr Marion Löffler, a draddododd ddarlith ar Gyfieithiadau o’r ‘Marseillaise’ yng Nghymru 1796–1914. Bu Dr Eurig Salisbury a Ned Thomas yn trafod safbwyntiau a phrofiadau cyfieithu gyda Sioned Puw Rowlands, a bu panel yn cynnwys Manon Steffan Ros, Siân Northey, Guto Dafydd a George Jones yn trafod ‘Y Llenor, y Cyfieithydd, a Chyfieithu Llenyddol’ gyda Mari Siôn o Gyfnewidfa Lên Cymru.

I gau’r gynhadledd cafwyd derbyniad cyhoeddus i lansio rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn llenyddol Llên Cymru. Sefydlwyd y cyfnodolyn yn 1950, a’i ddiben yw cyhoeddi ymchwil academaidd o’r ansawdd uchaf ar lenyddiaeth Gymraeg mewn unrhyw gyfnod. I gyd-fynd â thema’r gynhadledd, mae’r rhifyn hwn o’r cyfnodolyn yn cynnwys erthyglau ar gyfieithu diwylliannol ac amrywiaeth eang cyffrous o bynciau yn yr un maes.