24 Ebrill 2018
Fe fydd ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, yn mynychu Ffair Lyfrau Ryngwladol Abu Dhabi eto eleni, er mwyn hwyluso cyfnewid llenyddol a chyfieithu rhwng Ewrop a’r byd Arabaidd.
Unwaith eto, fe fydd Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yn hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru, yn benodol cyfrolau Silff Lyfrau 2018 - 2019, detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.
Hyrwyddir ein grantiau ar gael i gyhoeddwyr tramor er cyfieithu llenyddiaeth o Gymru yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal.
I drefnu apwyntiad gyda Alexandra Buchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, cysylltwch a alexandra@lit-across-frontiers.org
Am fwy o wybodaeth am Ffair Lyfrau Abu Dhabi ewch i www.adbookfair.com