Cyhoeddwyr o Gymru yn ymweld a Gwlad y Basg

Cyhoeddwyr o Gymru yn ymweld a Gwlad y Basg

03 Rhagfyr 2014

FESS2011 round table 493x273

Fe fydd golygyddion o weisg Seren a Parthian yn ymweld a Gwlad y Basg er mwyn cael cipolwg ar farchnad lyfrau a diwylliant llenyddol y wlad, rhwng Rhagfyr 5ed – 8fed 2014.

Trefnir yr ymweliad gan ein chwaer sefydliad, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, gyda’r nod o gyflwyno sin lenyddol Gwlad y Basg i gyhoeddwyr o’r DG. Fe fydd Richard Davies (Parthian), Penny Thomas (Seren Books) a'r newyddiadurwr diwylliannol Maya Jaggi yn ymuno a golygyddion o weisg Comma, MacLehose a Peter Owen i gyfarfod cyhoeddwyr, cyfieithwyr, awduron a llyfrwerthwyr o wlad y Basg.

Croesawir y gwesteion gan Etxepare Institute, a’i gobaith yw y bydd yr ymweliad yn arwain at gyhoeddi llenyddiaeth newydd safonol Basgeg mewn cyfieithiad yng Nghymru a’r DG.