Mynd â chlasuron Cymru i’r cyfandir - Ewrop yn cefnogi prosiect newydd

Mynd â chlasuron Cymru i’r cyfandir - Ewrop yn cefnogi prosiect newydd

07 Mawrth 2013

Edrychwn ymlaen i weld gwaith rhai o gewri llenyddol Cymru yr ugeinfed ganrif, megis T H Parry-Williams a Kate Roberts, ar gael i ddarllenwyr ar draws Ewrop fel rhan o brosiect newydd fydd yn cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn un o saith partner Ewropeaidd sy'n perthyn i Schwob, prosiect a arweinir gan Sefydliad yr Iseldiroedd dros Lenyddiaeth sydd wedi ennill cefnogaeth gwerth €200,000 fel rhan o Raglen Ddiwylliant yr UE.

Lansiwyd Schwob yn yr Iseldiroedd yn 2011 i hwyluso'r gwaith o hyrwyddo cyfieithu a chyhoeddi goreuon llenyddiaeth dramor yno. Gwnaethpwyd cais am grant Ewropeaidd i ehangu Schwob yn rhwydwaith ryngwladol. Bydd Schwob bellach yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau llenyddiaeth mewn chwe gwlad, gan gynnwys Cymru, i dynnu sylw at orau llenyddiaeth byd.

Bydd y partneriaid yn dewis, dosbarthu a hyrwyddo detholiad o 'deitlau Schwob' o bob un o'r saith gwlad a thu hwnt a ddisgrifir fel "clasuron modern eithriadol, sy'n anodd i'w canfod, sy'n hogi'r awydd am fwy". Bydd y teitlau a ddewiswyd yn cael eu cyflwyno a'u hyrwyddo i gyhoeddwyr drwy wefan Schwob, mewn gwyliau a thrwy weithgareddau eraill.

O'i chartref ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn gweithredu fel cyffordd gyfieithu sy'n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor. Mae'r bartneriaeth gyda Schwob yn galluogi’r Gyfnewidfa i ymestyn ei ffocws o lên gyfoes i glasuron modern.

Dywedodd Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru: "Mae'r newyddion am gefnogaeth o Ewrop i brosiect Schwob yn arwyddocaol ar gyfer Cymru. Bydd yn gyfle i'r Gyfnewidfa ymestyn y gwaith o hyrwyddo cyfieithu llenyddiaeth gyfoes Cymru dros y byd i gynnwys clasuron ein llenyddiaeth, a hynny mewn cyfnod o gynni economaidd. Bydd hefyd yn gyfle i ddarllenwyr yn Gymraeg a Saesneg ddarganfod clasuron modern o wledydd eraill."

Wrth groesawu'r newyddion am y gefnogaeth o Ewrop dywedodd Alexandra Koch, Prif Olygydd Schwob:

"Mae'n newyddion gwych a phwysig. Mae'n golygu nid yn unig y gallwn - yn y cyfnod hwn o doriadau i gyllid diwylliant - barhau â'n hymdrechion i dynnu sylw at glasuron modern ein llenyddiaethau ond mae hefyd yn golygu bod Schwob yn barod nawr i ddatblygu’n rhwydwaith Ewropeaidd.”

Nodiadau i Olygyddion

1) Cyfnewidfa Lên Cymru

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth, yn gweithio ar draws y byd i hybu cyfieithu a hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru. Mae'n gweinyddu cronfa grantiau cyfieithu i gyhoeddwyr tramor. Mae’r Gyfnewidfa hefyd yn cymryd rhan mewn ffeiriau llyfrau rhyngwladol, gan weithio gyda chyfieithwyr, cyhoeddwyr a gwyliau tramor i hyrwyddo llenyddiaeth a llenorion Cymru yn rhyngwladol. Yn 2009, bu’r Gyfnewidfa’n gyfrifiol am sefydlu menter newydd – Tŷ Cyfieithu Cymru – ar y cyd gyda Thŷ Newydd. Mae’r platfform rhyngwladol ar gyfer cyfieithu a chyfnewid llenyddol – Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau – hefyd wedi ei sefydlu a’i gartrefu yn Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth. Mae’r Gyfnewidfa yn gleient refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru ers dros ddeng mlynedd ac yn derbyn cyllid gan Lenyddiaeth Cymru ers Ebrill 2011.