Simon Brooks ar daith i Slofenia

Simon Brooks ar daith i Slofenia

17 Chwefror 2016

Seimon Brooks

Bydd Simon Brooks yn ymweld a Slofenia rhwng Ebrill 9fed a'r 18fed gan dreulio cyfnodau yn Novo Mesto a'r brifddinas Ljubljana. Bydd yn rhan o'r digwyddiad Dyddiau Dathlu'r Llyfr (Slovene Book Days) a drefir gan Gymdeithas Awduron Slofenia (Slovene Writers' Assoication), sy'n bartner i Lenyddiaeth ar draws Ffiniau (Aberystwyth) yng nghynllun Ewrop Greadigol.

Caiff Slofenia lawer o sylw yn llyfr diweddar Seimon Pam na fu Cymru? wrth iddo osod methiant Cymru i ennill annibyniaeth yng nghyd-destun nifer o wledydd bychan canolbarth Ewrop a gafodd lwyddiant dros y ganrif ddiwethaf.

Trefnir taith Simon Brooks gan Gymdeithas Awduron Slofenia a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau fel rhan o brosiect Llenyddiaeth Ewrop yn Fyw, a'i chefnogi gan brosiect yr Undeb Ewropeaidd, Ewrop Greadigol.