Llwyddiant i gyfrolau Silff Lyfrau Y Gyfnewidfa

Llwyddiant i gyfrolau Silff Lyfrau Y Gyfnewidfa

05 Mai 2015

Llyfr y Flwyddyn

Detholwyd pedair o gyfrolau Silff Lyfrau 2014 – 2015 Cyfnewidfa Lên Cymru i restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015.

Cyflwynir Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015 i’r gweithiau llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn 2014 yn Gymraeg a Saesneg, a hynny mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol. Gweinyddir y Wobr gan Llenyddiaeth Cymru.

Detholwyd cyfrol Llŷr Gwyn Lewis, Rhyw Flodau Rhyfel i restr fer Ffeithiol-Greadigol gan y beirniad yr awdur Annes Glynn, y prifardd Hywel Griffiths a’r actor a’r cerddor Gareth Potter.

Beirniad y gystadleuaeth Saesneg yw’r bard Paul Henry, yr awdur Tessa Hadley a’r beirniad llenyddol Alex Clark. Ar restr fer y gystadleuaeth Saesneg, detholwyd The Dig gan Cynan Jones i restr fer ffuglen, ynghyd a Down to the Sea in Ships gan Horatio Clare a Other People’s Countries gan Patrick McGuinness i restr fer Ffeithiol-Creadigol.

Cyhoeddir enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015 mewn seremoni wobrwyo yn Galeri Caernarfon, ddydd Iau 4 Mehefin.

Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, gyda’r prif enillwyr yn y ddwy iaith yn derbyn £6,000 yn ychwanegol.

I ddarganfod mwy am Wobr Llyfr y Flwyddyn 2015 yn ogystal a darllen y rhestr fer yn llawn, ewch i’r wefan: www.llyfryflwyddyn.co.uk