09 Mehefin 2015
Cyflwynwyd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015 i’r gweithiau llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn 2014 yn Gymraeg a Saesneg, a hynny mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol. Gweinyddir y Wobr gan Lenyddiaeth Cymru.
Daeth Other People’s Countries (Jonathan Cape) gan Patrick McGuinness i’r brig yng nghategori Ffeithiol Creadigol (Saesneg) yn ogystal a chipio gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015 (Saesneg).
The Dig (Granta) gan Cynan Jones ddaeth i’r brig yn y categori ffuglen Saesneg, tra i gyfrol Llŷr Gwyn Lewis, Rhyw Flodau Rhyfel (Y Lolfa) ddod i frig y categori Ffeithiol-Greadigol Cymraeg. Awst yn Anogia (Gwasg Gwynedd) gan Gareth F Williams enillodd teitl Llyfr y Flwyddyn 2015 (Cymraeg).
Roedd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, gyda’r prif enillwyr yn y ddwy iaith yn derbyn £6,000 yn ychwanegol.
I ddarganfod mwy am enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015, ewch i’r wefan: www.llyfryflwyddyn.co.uk