21 Mawrth 2013
Mae Publishing Data and Statistics on Translated Literature in the United Kingdom and Ireland yn adroddiad ymchwil newydd sy’n dangos y ffigyrau manwl gywir ynghylch y nifer o deitlau a gyfieithwyd sydd wedi eu cyhoeddi ar Ynysoedd Prydain, ac yn argymell ffyrdd i gasglu rhagor o ddata.
Mae’r adroddiad newydd hwn yn ganlyniad i astudiaeth dichonoldeb a wnaed gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau yn 2012 gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, Sefydliad Calouste Gulbenkian a Rhaglen Diwylliant yr UE. Pwrpas yr astudiaeth oedd argymell datrysiad i broblemau cyfredol drwy gynnig gwella’r modd y cesglir ac y rhennir gwybodaeth ar gyfieithu llenyddol, er mwyn hwyluso ymchwil ac asesu tueddiadau yn y dyfodol.
Mae ystadegau sy’n deillio o ddadansoddi’r data a ddarparwyd gan y Llyfrgell Brydeinig am dair blynedd sampl – 2000, 2005 a 2008 – yn rhoi’r ffigyrau cywir cyntaf i ni ynghylch cyhoeddi llenyddiaeth a gyfieithwyd ar Ynysoedd Prydain.
Mae’r ffigyrau hyn yn dangos twf cyson yn y teitlau a gyfieithwyd, a ddangosodd y cyhoeddiadau cyfieithiadau fel a ganlyn:
Mae hyn yn cyfateb i’r canrannau canlynol: oddeutu 2.5% o holl gyhoeddiadau a 4.5% o ffuglen, barddoniaeth, drama (llenyddiaeth) a chyfieithiadau.
Llenyddiaeth ar draws Ffiniau yw chwaer raglen Cyfnewidfa Lên Cymru, sydd wedi ei lleoli yn Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth.