08 Chwefror 2013
Mae gwobr Times Stephen Spender yn cyhoeddi eu dyddiad cau ar gyfer derbyn cyfieithiadau. Rhowch gynnig ar gyfieithu o unrhyw iaith, boed yn iaith glasurol neu fodern, i'r Saesneg. Ceir tri chategori - Agored, hyd at 18 oed a hyd at 14 oed - a gwobrau ariannol. Ceir manylion, ffurflenni cais a llyfrynau am ddim o gyfieithiadau arobryn y gorffennol ar wefan Ymddiriedolaeth Stephen Spender. Y dyddiad cau yw'r 24ain o Fai, 2013.