Trefnir y prosiect gan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau mewn partneriaeth â Sefydliad D C Kizhakemuri a Gŵyl Llythyrau Rhyngwladol Mathrubhumi. Bydd y prosiect yn uno pump o feirdd a pherfformwyr Prydeinig – Juana Adcock, Adrian Fisher, Luna Montenegro, Zoe Skoulding a Iestyn Tyne – gyda'r bardd Malayalam Anitha Thampi. Bydd y beirdd a'r artistiaid yn cyd-greu gwaith amlieithog newydd sy'n mynd i'r afael â chwestiynau ynglŷn â newid hinsawdd a pherthynas dyn â natur. Eu bwriad yw trafod y pynciau hyn drwy ffocysu ar y cysyniadau o gyfiawnder hinsawdd ac anghydraddoldebau byd-eang a waethygir gan ddinistr yr amgylchedd. Trwy’r prosiect, bydd y beirdd ac artistiaid yn ymchwilio perthynas hanesyddol y DU ag India, ond hefyd perthnasoedd trefedigaethol eraill sy'n berthnasol i’w cefndiroedd.