22 Rhagfyr 2014
Fel Llysgennad Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau, bu Richard Gwyn yn teithio De America ar hyd y flwyddyn fel rhan o’i ‘Daith Anorffenedig’, yn trafod ei waith ynghyd â hyrwyddo llenyddiaeth o Gymru.
Bu’r Gyfnewidfa yn falch o gefnogi ei lysgenhadaeth, gan gydweithio gyda Club de Traductores Literarios de Buenos Aires, a chefnogi partneriaid yn cynnwys gwyliau llenyddol rhyngwladol, prifysgolion a chylchgronau yn Yr Ariannin, Chile, Colombia a Mecsico.
Darllenwch flog Richard Gwyn yma.
Cewch flas o 'Daith Anorffenedig' Richard Gwyn drwy ymweld a'n tudalen Storify.