Cyfle i Gyfieithydd Llenyddol yng Nghynllun Mentora

Cyfle i Gyfieithydd Llenyddol yng Nghynllun Mentora

14 Awst 2019


Nawdd i Awduron: Cynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru nawr ar agor


Mae Cynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru 2020 ar agor yn awr i geisiadau gan awduron newydd.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Mentora 2020:
5.00 pm Dydd Mawrth 10 Medi 2019.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi cydweithrediad rhwng Llenyddiaeth Cymru, National Centre for Writing, Norwich a Chyfnewidfa Lên Cymru, ar gyfer Cynllun Mentora 2020.

Yn y flwyddyn beilot hon, bydd y cydweithrediad hwn yn cynnig cyfle arbennig i egin gyfieithwyr, sy’n gweithio ar gyfieithu llenyddol o Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg, yn cynnwys cyfnewid rhwng unigolion o Gwrs Mentora Llenyddiaeth Cymru a Chwrs Mentra Cyfieithu y National Centre for Writing yn Norwich.

Dyfernir lleoedd ar y Cynllun Mentora i Awduron i awduron newydd ar ddechrau eu gyrfa fel awdur. Gall egin awduron berthyn i unrhyw grŵp oedran. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol i awduron, er mwyn datblygu gwaith penodol sydd ar y gweill i safon cyhoeddi. Mae cynllun Mentora 2020 wedi’i ymestyn a bydd yn dechrau gyda chwrs preswyl wythnos (6 niwrnod/5 noson) yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar 2-7 Mawrth 2020. Yn y misoedd yn dilyn y cwrs rhoddir cymorth ar ffurf sesiynau unigol un-wrth-un gyda mentor profiadol.


Mentora cyfieithu llenyddol

Fel rhan o’r cydweithrediad newydd yma, caiff un o’r pedwar lle ar y Cynllun Mentora ei neilltuo ar gyfer egin gyfieithydd llenyddol/awdur. Bydd y dyfarniad hwn yn cynnwys lle ar gwrs penwythnos National Centre for Writing 17-19 Ionawr 2020 yn Norwich; lle ar Gwrs Mentora Llenyddiaeth Cymru yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar 2-7 Mawrth 2020; a thri sesiwn mentora unigol gyda mentor yn ystod y flwyddyn.


Genres cymwys

Gall awduron ofyn am gymorth er mwyn datblygu gwaith penodol sydd ar y gweill, yn unrhyw un o’r genres cymwys: Barddoniaeth; rhyddiaith yn cynnwys nofelau a straeon byrion, llenyddiaeth plant a ffuglen i oedolion ifainc; llenyddiaeth ffeithiol greadigol, yn cynnwys cofiannau/hunangofiannau, a beirniadaeth lenyddol; nofelau graffeg.

Cyfieithu llenyddol: Saesneg i’r Gymraeg NEU Cymraeg i Saesneg, yn unrhyw un o’r genres uchod.

Rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais

https://www.llenyddiaethcymru....


Dyddiad cau

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau Mentora 2020: 5.00 pm Dydd Mawrth 10 Medi 2019.

Cefnogir Ysgoloriaethau i Awduron a Chynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru gan Y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.