18 Medi 2018
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Cymrodoriaeth CWIT ar gyfer cyfieithwyr llenyddol ac ysgrifenwyr creadigol addawol o India, wedi eu lleoli yn Aberystwyth, a chaiff ei reoli ar y cyd rhwng Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant.
Dim ond dinasyddion Indiaidd sy’n byw yn India sy’n gymwys ar gyfer y preswyliad tri mis a fydd yn digwydd yn ystod cyfnod yr Hydref / Gaeaf 2018-19.
Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus gyfle i dreulio tri mis yn Aberystwyth yn gweithio ar brosiect llenyddol o’u dewis sy’n cyfuno cyfieithu ac ysgrifennu. Er mai eu prosiect fydd prif ffocws eu preswyliad gyda ni, rydym hefyd yn annog ein Cymrodorion i ymwneud â bywyd academaidd, diwylliannol a chymdeithasol lleol ac i gysylltu â chylchoedd llenyddol a theatrig.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn y ceisiadau yw canol nos GMT y 27ain o Fedi 2018. Ni dderbynnir ceisiadau hwyr. Hysbysir yr ymgeisydd llwyddiannus erbyn y 7fed o Hydref 2018.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen yma.