08 Gorffennaf 2014
Dyfarnwyd grant cyfieithu English PEN 2014 i Paris gan Wiliam Owen Roberts, drwy raglen PEN Translates. Paris, a gaiff ei gyfieithu gan Elisabeth Roberts, yw'r nofel Gymraeg gyntaf i dderbyn cefnogaeth o’r fath gan English PEN.
Cyhoeddir Petrograd, y nofel gyntaf yn nhriawd Wiliam Owen Roberts y flwyddyn nesaf gan Parthian, gyda Paris yn dilyn yn 2016.