Llenor Cwrdaidd i gyfieithu’r Mabinogi

Llenor Cwrdaidd i gyfieithu’r Mabinogi

06 Mawrth 2017

Salih Agir Qosheri web3

Mae bardd a chyfieithydd Cwrdaidd yn Aberystwyth yr wythnos hon (6-10 Mawrth 2017) i gyfieithu rhai o chwedlau'r Mabinogi i Kurmandji, iaith Gwrdeg sy’n cael ei defnyddio yn Nhwrci.

Mae Salih Agir Qoserî yn gweithio gyda Caroline Stockford, cyfieithydd barddoniaeth a llenyddiaeth Dwrcaidd sy’n gweithio yn Aberystwyth. Fe fydd hi yn ei thro yn gweithio ar destunau Saesneg eu hiaith o chwedlau Cwrdeg.

Wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Rhaglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, trefnwyd y cyfnod preswyl gan PEN Cymru a'n chwaer sefydliad Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF) - llwyfan Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid llenyddiaeth a chyfieithu sy’n rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth ac sy’n arwain menter Ewrop Lenyddol Fyw.

Yn ystod ei gyfnod preswyl, bydd Salih Agir Qoserî yn ymweld ag Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth ac ysgol Bishop Vaughan yn Nhreforys, Abertawe.

Mae Salih Agir Qoserî bellach yn byw yn ninas Mardin, Anatolia, ar ôl treulio pymtheg mlynedd yn Sweden. Mae wedi cyfieithu nifer o lyfrau Swedeg, Saesneg a Thwrceg i'r Gwrdeg, gan gynnwys 1984. Nawr mae'n troi ei sylw at straeon hudolus y Mabinogi a thrwy eu cyfieithu i Gwrdeg roi llenyddiaeth ar daith.

Bydd ei ymweliadau ag ysgolion a’r digwyddiadau cyhoeddus yn tynnu sylw at sefyllfa’r iaith a’r diwylliant Cwrdaidd ac yn gyfle i hwyluso cyfieithu’r Mabinogi i’r Cwrdeg a chwedlau Cwrdaidd i’r Gymraeg.

Ar ddiwedd ei gyfnod preswyl, bydd Salih Agir Qoserî a Caroline Stockford yn cael cyfle i fynychu Ffair Lyfrau Llundain - un o brif ddigwyddiadau yng nghalendr y diwydiant cyhoeddi rhyngwladol.

Mae Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau sy’n cyd-drefnu Canolfan Gyfieithu Lenyddol y Ffair Lyfrau a’i rhaglen hynod lwyddiannus o seminarau dros gyfnod o dridiau.