Not the Booker Prize 2020: Success for Welsh author Richard Owain Roberts

Not the Booker Prize 2020: Success for Welsh author Richard Owain Roberts

02 Tachwedd 2020

HELLO FRIEND WE MISSED YOU cover2

Enillodd HELLO FRIEND WE MISSED YOU, nofel gyntaf Richard Owain Roberts, y wobr Not the Booker. Sefydlwyd y wobr gan The Guardian yn 2009 fel gwobr llyfr amgen, lle gallai darllenwyr eu hunain bleidleisio dros yr enillydd.

Mae'r blog yn gofyn i ddarllenwyr lunio rhestr o lyfrau gorau'r flwyddyn a oedd wedi colli allan ar y gwobrau llenyddol mwyaf ac yna i bleidleisio ar ei restr fer. Eleni, roedd nofel Roberts yn ffefryn amlwg gyda darllenwyr ac enillodd bleidleisiau’r cyhoedd a’r beirniaid.

Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o straeon, All the Places We Lived, yn 2015, a chyfieithwyd i'r Serbeg yn 2017 gan Ana Pejovič a gyhoeddwyd gan Partizanska Knjiga. Trefnwyd ymweliad i Serbia i Roberts gan y cyhoeddwr ar gyfer taith lyfrau ledled y wlad – sef testun y rhaglen ddogfen ULTRA sydd i ddod yn fuan.

Mae gan Partizanska Knjiga yr hawliau i gyfieithu HELLO FRIEND WE MISSED YOU hefyd , ac rydym yn aros yn eiddgar am fwy o gyfieithiadau o'r awdur unigryw yma.