Cyhoeddi enillydd Her Gyfieithu 2017

Cyhoeddi enillydd Her Gyfieithu 2017

14 Awst 2017

HER 2017

Am y tro cyntaf erioed, mae gwaith gan un o feirdd amlycaf Twrci’r ugeinfed ganrif wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg.

Barddoniaeth Nâzim Hikmet oedd testun gosod Her Gyfieithu 2017, sy’n cael ei threfnu gan Gyfnewidfa Lên Cymru, rhan o Sefydliad Mercator Prifysgol Aberystwyth, mewn cydweithrediad â mudiad PEN Cymru.

Ym mhabell Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, cyhoeddwyd mai Sian Cleaver oedd enillydd y gystadleuaeth eleni.

Yn wreiddiol o Gastell Nedd ond bellach yn byw yn Nhrefor ger Caernarfon, mae Sian Cleaver yn derbyn Ffon Farddol hardd o waith Elis Gwyn wedi’i noddi gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ynghyd â rhodd o £250 gan Brifysgol Abertawe.

Seicoleg ym Mhrifysgol Sussex oedd gradd gyntaf Sian a bu’n gweithio am sawl blwyddyn fel Seicolegydd Clinigol cyn dychwelyd i Gymru a phenderfynu gwneud gradd yn y Gymraeg ac yna MA mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd naw wedi cystadlu yn Her Gyfieithu 2017 lle’r oedd gofyn iddyn nhw gyfieithu darn o waith y bardd Nâzim Hikmet o’r Twrceg i’r Gymraeg.

Dywedodd Cydlynydd Cyfnewidfa Lên Cymru Mari Siôn: “Roedd safon y cyfieithiadauu a ddaeth i law eleni yn hynod uchel ac mae’n bleser cael anrhydeddu Sian Cleaver heddiw am ei chyfieithiad clodwiw o waith Nâzim Hikmet. Roedd Nâzim yn un o feirdd amlycaf Twrci’r ugeinfed ganrif ac fe dreuliodd gyfnodau yn y carchar am ei ddaliadau gwleidyddol. Mae ei waith wedi’i gyfieithu i dros 50 o ieithoedd gwahanol ond dyma’r tro cyntaf erioed iddo gael ei gyfieithu i’r Gymraeg.”

Roedd un arall o feirdd amlwg Twrci yn rhan o seremoni wobrwyo’r Her Gyfieithu ar stondin Prifysgol Aberystwyth Ddydd Iau 10 Awst 2017.

Mae Ciwanmerd Kulek yn treulio pythefnos yng Nghymru fel rhan o brosiect Cyfieithu Cwrdeg-Cymraeg Sefydliad Mercator.

Yn ystod ei ymweliad, bydd yn cydweithio â’r ymgyrchydd rhyddid mynegiant, Caroline Stockford, sydd hefyd yn cadeirio pwyllgor hawliau ieithyddol PEN Cymru.

Ciwanmerd Kulek yw’r ail fardd Cwrdeg i dreulio cyfnod preswyl yng Nghymru fel rhan o’r prosiect cyfieithu.

Bydd yn parhau gyda’r gwaith o gyfieithu’r Mabinogi o’r Cwrdeg i’r Gymraeg a gychwynwyd gan Salih Qoseri, cyfieithydd o Mardin a ddaeth i Aberystwyth ym mis Mawrth.

Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Mercator Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: “Mae gan chwedlau’r Mabinogi apêl fyd-eang a thrwy’r gwaith yma fe fydd y chwedlau hynafol yma yn cael cynulleidfa newydd. Fel yr Her Gyfieithu, nod ein Prosiect Cyfieithu Cwrdeg-Cymraeg yw defnyddio cyfieithu creadigol i bontio rhwng llenyddiaethau a diwylliannau rhyngwladol”

Dywedodd Cyfarwyddwr PEN Cymru, Sally Baker: “Mae PEN Cymru yn hynod falch mai llenorion o Dwrci yn cael sylw nid yn unig yn ein Prosiect Cyfieithu Cwrdeg-Cymraeg ond yn yr Her Gyfieithu eleni hefyd. Mae’r ddwy fenter yma yn amlygu’r gwaith pwysig mae PEN yn ei wneud i amddiffyn rhyddid mynegiant a hawliau ieithyddol yn Nhwrci a gweddill y byd.”

Darllenwch gyfieithiad buddugol Sian Cleaver ar wefan cylchgrawn llyfrau Cymru, O'r Pedwar Gwynt, yma.

Oriel Gysylltiedig

Cynnwys Cysylltiedig