21 Mehefin 2019
Cyflwynir Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017 i’r gweithiau llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn 2019 yn Gymraeg a Saesneg, a hynny mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol. Gweinyddir y Wobr gan Lenyddiaeth Cymru.
Darllenwch y rhestr fer gyfan yma.
Yn gyntaf, o’r Silff Lyfrau eleni, roedd Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros – a gwahoddwyd i’r llwyfan tair gwaith! Yn gyntaf, casglodd Gwobr Barn y Bobl Golwg360, yna i dderbyn Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth, ac yn olaf, cipiodd prif wobr y noson – Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a chyflwynwyd gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Tomos AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Roedd Llyfr Glas Nebo ar restr fer y wobr wrth ymyl nofel afaelgar Heiddwen Tomos Esgyrn a nofel epig Jerry Hunter, Ynys Fadog. Cafodd nofel Jerry Hunter, Y Fro Dywyll ei ddewis i’r Silff Lyfrau yn 2015.
Llongyfarchiadau gwresog i’r llenorion oll ac i Lenyddiaeth Cymru am noson odidog!
Dyma restr gyflawn o’r enillwyr y noson:
Prif Wobr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2019
Llyfr Glas Nebo, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Gwobr Farddoniaeth
Cyrraedd a Cherddi Eraill, Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Cymru mewn 100 Gwrthrych, Andrew Green (Gwasg Gomer)
Prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2019
Insistence, Ailbhe Darcy (Bloodaxe Books Ltd.)
Gwobr Ffuglen Saesneg Prifysgol Aberystwyth
West, Carys Davies (Granta Publications)
Gwobr Ffeithiol Greadigol Saesneg
Moneyland, Oliver Bullough (Profile Books)
Gwobr Barn y Bobl Wales Arts Review
Gen, Jonathan Edwards (Seren)