Cydweithio rhwng darlunwuyr o Gymru a Siapan ar lyfr stori ddwyieithog yn Osaka

29 Hydref 2025

Valeriane and Liz

Cydweithio rhwng darlunwuyr o Gymru a Siapan ar lyfr stori ddwyieithog yn Osaka


Mae'r darlunwyr o Gymru Liz Fenwick a Valériane Leblond yn Osaka, Japan ar hyn o bryd, yn gweithio ar brosiect traws-ddiwylliannol arloesol gan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru (LAF a WALE) a fydd yn gweld draig Gymreig yn cwrdd â'i chymar o Japan mewn stori ddwyieithog newydd i blant.

Mae'r prosiect, "A Tale of Two Dragons: Connecting Wales and Japan Through Stories for Children," yn dod â'r ddau ddarlunydd Cymreig ynghyd ag awdur llyfrau i blant blaenllaw o Japan, Yoshifumi Hasegawa, i greu naratif unigryw sy'n archwilio'r cyfarfod rhwng Y Ddraig Goch Gymreig, a'r ddraig las Japaneaidd, creadur dŵr traddodiadol.

Mae Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr LAF, yn teithio gyda'r cyfranogwyr Cymreig i Japan. Yn dilyn gweithdai ar-lein llwyddiannus yn gynharach eleni, mae'r tîm bellach yn cydweithio'n bersonol yn oriel Yoshifumi Hasegawa yn Osaka, lle mae byrddau stori yn datblygu.

"Does dim byd yn curo sesiwn wyneb yn wyneb," meddai Büchler, gan ganmol egni creadigol y cydweithrediad. Mae'r tîm wedi cael perfformiadau traddodiadol o kamishibai (theatr bapur Japan) a phrofiadau dwfn yn stiwdio Hasegawa, gan ddyfnhau eu dealltwriaeth o draddodiadau Japaneaidd o adrodd chwedlau.

Fel rhan o'r ymweliad, bydd Liz Fenwick a Valériane Leblond yn hwyluso gweithdy creu llyfrau lluniau gyda phlant yn Osaka ac yn cwrdd ag aelodau lleol o Gymdeithas Awduron a Darlunwyr Llyfrau Plant. Bydd y prosiect yn dod i ben gyda digwyddiad cyhoeddus yn Llyfrgell Ganolog Osaka, lle bydd y stori gydweithredol yn cael ei chyflwyno.

Mae LAF a WLE yn partneru â dau sefydliad llenyddol sylweddol o Japan ar y prosiect hwn: y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Llenyddiaeth Plant yn Osaka (IICLO) a Bwrdd Japan ar Lyfrau i Bobl Ifanc (JBBY). Cefnogir y fenter gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Council Cymru.

Bydd y stori am sut, ble, a pham mae'r ddwy ddraig yn cwrdd "hanner ffordd rhwng Cymru a Japan" yn cael ei datgelu maes o law.