Cyfnewidfa Lên Cymru yn Ffair Lyfrau Frankfurt 2020

Cyfnewidfa Lên Cymru yn Ffair Lyfrau Frankfurt 2020

05 Hydref 2020

Iu

Bydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn cymryd rhan yn un o ddigwyddiadau pwysicaf y diwydiant cyhoeddi, Ffair Lyfrau Frankfurt, a gynhelir ar-lein eleni.

Canada fydd y wlad wadd ar gyfer y Ffair 2020 a 2021. Byddwn yn cyfarfod â chyhoeddwyr, cyfieithwyr ac asiantaethau ac yn cyflwyno ein Silff Lyfrau diweddaraf – detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.

I drefnu cyfarfod gyda’r Gyfnewidfa yn ystod y ffair, cysylltwch gyda ni: post@waleslitexchange.org