Wales Literature Exchange at Frankfurt Book Fair 2024

18 Hydref 2024

Frankfurt 2023

Datgelu Silff Lyfrau 2024 yn Frankfurt

Rydym wrth ein bodd yn datgelu ein Silff Lyfrau ar gyfer 2024-25, sydd yn cynnwys detholiad bywiog o lenyddiaeth gan awduron o Gymru, a argymhellir gan Gyfnewidfa Lên Cymru i gael sylw rhyngwladol.


Cyhoeddwyd Silff Lyfrau eleni o stondin Cymru yn ystod Ffair Lyfrau Frankfurt, o 15-18 Hydref, mewn cydweithrediad â'n cydweithwyr o Gyngor Llyfrau Cymru a chyhoeddwyr Cymru a gyda chefnogaeth gan Cymru Greadigol, asiantaeth Llywodraeth Cymru sy'n rhoi cymorth i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Ffair Lyfrau Frankfurt yw'r man cyfarfod pwysicaf ar gyfer y sector llyfrau byd-eang, nid yn unig ar gyfer hawliau masnachu ond hefyd ar gyfer sicrhau ein bod yn dilyn datblygiadau mwyaf diweddar yn y byd cyhoeddi a'r sîn lenyddol. Gyda dros 2,500 o weithwyr proffesiynol o 130 o wledydd yn mynychu, cawsom gyfnod prysur yn cyfarfod â chyhoeddwyr a phartneriaid prosiect. Buom hefyd yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol rhwydwaith ENLIT lle cafodd Alexandra Büchler, cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau ei hailethol i'r bwrdd. Cafodd y rhwydwaith, ei sefydlu ar y cyd gydag LAF, yac mae’n dwyn ynghyd 30 o sefydliadau cenedlaethol sy'n ymroddedig i hyrwyddo eu llenyddiaeth a chefnogi cyfieithu llenyddol.

Conglfaen ein presenoldeb mewn ffeiriau llyfrau rhyngwladol yw’r Silff Lyfrau. Mae'n rhoi cyfle unigryw i'n tîm gwrdd â chyhoeddwyr byd-eang, gan hyrwyddo'r gweithiau a'r awduron rhagorol sy'n rhan o'r detholiad hwn. Rydym hefyd yn tynnu sylw at ein Cronfa Grantiau Cyfieithu, sydd ar gael i gyhoeddwyr i gefnogi cyfieithu llenyddiaeth o Gymru i ieithoedd eraill.

Eleni, roeddem yn falch o gyflwyno 34 teitl, casgliad sydd wir yn adlewyrchu amrywiaeth, creadigrwydd, a hyder ysgrifennu cyfoes o Gymru. Mae detholiad Silff Lyfrau 2024-25 yn cynnig cymysgedd cyffrous o genres—ffuglen, ffeithiol, barddoniaeth, a drama.

Mae "Local Fires" gan Joshua Jones yn sefyll allan fel cyfrol ffuglen gyntaf pwerus sy'n archwilio bywydau trigolion Llanelli, gan gyfuno themâu rhywedd, niwrowahaniaeth, a gwrywdod gwenwynig. Cyrhaeddodd y casgliad hwn restr fer Gwobr Dylan Thomas a chyrhaeddodd restr hir Gwobr Llyfr Cyntaf Polari, gan nodi Jones fel ffigwr a llais i’w wylio yn y byd llenyddol. Mae nofel hanesyddol Niall Griffiths, "Of Talons and Teeth,"yn ychwanegiad nodedig arall, sef archwiliad dwys o gariad a chamfanteisio yn y Gymru gyn-ddiwydiannol, sydd wedi ei ganmol am blethu cyfriniaeth gyda’i rhyddiaith cignoeth nodweddiadol.

Yn y categori ffeithiol greadigol, mae cyfrol Richard Gwyn "Ambassaodr of Nowhere: A Latin American Pilgrimage" yn cyfuno cofiant gyda ysgrifennu taith, gan tramwyo De America i chwilio am farddoniaeth a wynebu cythreuliaid personol. Mae cofiant Tiffany Murray, My Family and Other Rock Stars, yn dod â phersbectif unigryw ar dyfu i fyny yn stiwdios chwedlonol Rockfield, safle o hanes cerddoriaeth eiconig. Mae'r ddau yn adlewyrchu amrywiaeth lleisiau a phrofiadau ym maes ysgrifennu Cymraeg heddiw.

Mae’r detholiad o gyfrolau barddoniaeth eleni yn cynnwys "Cowboy" gan Kandace Siobhan Walker, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2024 am Farddoniaeth ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Forward eleni. Mae'r casgliad bywiog hwn, sydd wedi'i drwytho yn y rhyngrwyd yn ymchwilio i themâu myth teuluol, bywyd modern, a deisyfiad ysbrydol. Enillodd "Mymryn Rhyddid" wobr Llyfr Barddoniaeth y Flwyddyn yn yr iaith Gymraeg i'r awdur aml-genre Gruffudd Owen, a ysgrifennodd "Parti Priodas", ei ddrama ddoniol a theimladwy am berthyn ac unigrwydd, llwyddiant ysgubol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a ddilynwyd gan daith genedlaethol a werthodd allan. Mae’r ddrama "Woof" gan Elgan Rhys yn cynnig portread agos o berthnasau cwiar, gan gyfuno hiwmor ag eiliadau o densiwn.

Mae nifer o deitlau eraill wedi ennill gwobrau mawreddog. Enillodd "Sut i Ddofi Corryn" Mari George wobr Llyfr y Flwyddyn 2024, gan gynnig stori realaidd hudolus am salwch ac adferiad, mae “Trothwy” gan Iwan Rhys yn stori ffeithiol greadigol deimladwy am ddod yn llystad sy'n neidio rhwng Caernarfon a Berlin ac a bleidleisiwyd yn Ddewis y Bobl ar gyfer Llyfr y Flwyddyn, tra bod "Skrimsli" Nicola Davies, a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn i Blant a Phobl Ifanc, yn antur ffantasi afaelgar.

Mae'r casgliad hwn yn ymgorffori tirwedd ddeinamig ac amrywiol llenyddiaeth Cymru, ac rydym yn gyffrous i rannu'r straeon hyn gyda'r byd.