06 Ebrill 2018
Am y tro cyntaf eleni, mae saith sefydliad o Gymru sy’n gweithio’n rhyngwladol yn y sector llenyddiaeth yn cydweithio i redeg stondin (Stondin 5C129) ac rydym yn falch o fod yn gweithio â’n cyhoeddwyr annibynnol ffynianus i ddangos y llyfrau a’r awduron gorau o Gymru yn Ffair Lyfrau Llundain 2018.
Cydlynnir y stondin gan y saith sefydliad canlynol:
Fe fydd cynrychiolwyr o Gyfnewidfa Lên Cymru yn cyfarfod cyhoeddwyr, cynrychiolwyr awduron a chyfieithwyr, gan gyflwyno Silff Lyfrau 2017-2018 - ein detholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor.
Fe fydd Cyfnewidfa Lên Cymru yn dathlu ugain mlynedd gyda derbyniadar stondin Cymru, ddydd Mercher, 11 Ebrill 2018, am 5yh. Rydym yn dathlu ar y cyd â Parthian Books sy'n dathlu troi'n 25 gyda rhestr o deitlau gwreiddiol a chyfieithiadau, a Head & Heart Book design sy'n troi'n bedair eleni.
I drefnu cyfarfod gyda Cyfnewidfa Lên Cymru yn ystod y ffair, cysylltwch â Mari Siôn: mas31@aber.ac.uk
Blas o rai o'r digwyddiadau yn ymwneud â Chymru yn y Ffair Lyfrau.
Wales and Scotland – Indigenous Languages of the UK in Contemporary Literature
Dydd Mercher, 11 Ebrill, 11.30am – 12.30pm, Literary Translation Centre
Dewch i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd i ysgrifennu a chyfieithu rhai o leisiau Ynysoedd Prydain, yn cynnwys Gwyddeleg, Cymraeg a Gaeleg yr Alban. Bydd y panelwyr yn archwilio dwyieithrwydd, pwysigrwydd iaith a chyfieithu yng nghyd-destun y DU a’r amrywiaeth o leisiau sydd yn llenyddiaeth gyfoes y DU.
Aelodau’r panel drafod fydd:
Interpreting Cultures: Russia, Europe and the West
Dydd Mercher, 11 Ebrill, 2.30 – 3.30, The Cross-Cultural Hub
Ar y panel yn trafod y cyfleoedd a’r heriau i ysgrifennu i, ac o, ieithoedd gwahanol, fydd:
Wales and the New Magic Realism in Children’s Publishing
Dydd Mercher, 11 Ebrill, 4pm – 5pm, Children’s Hub
Dewch i gael golwg newydd ar lenyddiaeth plant yng Nghymru, ac i ddysgu mwy am bwysigrwydd lleisiau cynhenid mewn cyhoeddiadau i blant.
Aelodau’r panel drafod fydd:
Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd
Dydd Mercher, 11 Ebrill, 5pm, Stondin Cymru (5C129)
Cyfnewidf Lên Cymru yn dathlu 20 mlynedd!
Fe'ch gwahoddir yn wresog i ddathlu 20 mlynedd o Gyfnewidfa Lên Cymru yn Ffair Lyfrau Llundain 2018.
Dewch i godi gwydriad o win i'r Gyfnewidfa Lên ac i'n llenyddiaeth, awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr.
Rydym yn dathlu ar y cyd â Parthian Books sy'n dathlu troi'n 25 gyda rhestr o deitlau gwreiddiol a chyfieithiadau, a Head & Heart Book Design sy'n troi'n bedair eleni.
Cymru yn Ffair Lyfrau Llundain
Dydd Iau, 12 Ebrill, 11:30am - 12:30pm, Stondin Cymru (5C129)
Dewch i ddathlu presenoldeb Cymru yn Ffair Lyfrau Llundain gyda'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru ac Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru.