Croesawu Tomáš Míka i Aberystwyth

Croesawu Tomáš Míka i Aberystwyth

14 Ionawr 2015

Tomas mika aber

Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn falch o groesawu’r bardd a’r cyfieithydd o’r Weriniaeth Tsiec, Tomáš Míka i Aberystwyth yr wythnos hon ar breswyliad.

Yn ystod y preswyliad, gynhelir rhwng Ionawr 10fed – 17eg 2015, bydd Tomáš Míka nid yn unig yn cyfieithu rhai o gerddi R.S.Thomas i’r iaith Tsiec ond hefyd yn cyfarfod gydag ysgolheigion, arbenigwyr, a newyddiadurwyr er mwyn dod i adnabod y byd llenyddol yng Nghymru’n well.

Mae Tomáš Míka yn gyfieithydd llenyddol sydd wedi ennill sawl gwobr. Ymysg y gweithiau mae wedi gyfieithu i’r iaith Tsiec mae clasuron John Bunyan (The Pilgrim's Progress a Grace Abounding), James Hogg (Confessions of the Justified Sinner), Samuel Beckett (Watt), a Jack Black (You Can’t Win). Mae ei waith gwreiddiol yn cynnwys gyfrol o gerddi, Nuceny vysek (Dinistrio Anifeiliad) gyhoeddwyd ym Mhrag yn 2003. Cyhoeddwyd ei gyfrol o straeon byrion Und (Arg Publishers) ym mis Medi 2005, a chyfrol o’i farddoniaeth Deník rychlého člověka (Dyddiadur Dyn Sydyn) ym mis Rhagfyr 2007. Mae’n byw ym Mhrag.

Cefnogir preswyliad Tomáš Míka yn Aberystwyth gan The Czech Centre.