14 Mai 2024
Prosiect Cerddi Eco DU-India, 3yh 08/06/24 gyda Zoë Skoulding, Iestyn Tyne, Juana Adcock, Adrian Fisher a Luna Montenegro.
Darlleniad-berfformiad yn archwilio barddoniaeth y môr mewn ffurf amlieithog a sonig, gan blethu profiadau lleoliadau cefnforol gan gynnwys Kerala ac arfordir Cymru gan Brosiect Cerddi Eco DU-India.
Cydlynir y prosiect gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau mewn partneriaeth gyda Sefydliad D C Kizhakemuri a Mathrubhumi International Festival of Letters. Cefnogir y prosiect gan Gronfa Ryngwladol y Pedair Gwlad, a weinyddir gan Creative Scotland, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu.