28 Mai 2023
Mae'r digwyddiad yma'n rhan o'r rhaglen barhaus o gyfnewid diwylliannol, Ysgrifennu'r Hinsawdd, Hinsawdd Ysgrifennu,rhwng ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Gŵyl Blue Metropolis yn Montreal sy'n dod ag awduron o Gymru a Québec ynghyd i drafod perthynas pobl ag ecosystemau naturiol a diwylliannol, ac i ystyried sut caiff y berthynas hon ei hadlewyrchu mewn llenyddiaeth.