Siân Melangell Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis yng Ngŵyl Blue Metropolis ym Montreal rhwng 27 a 30 Ebrill, ynghyd â Chyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Alexandra Büchler

01 Mai 2023

Quebec Wales collage 1000x560

Mynychodd Siân Melangell Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis Ŵyl Blue Metropolis ym Montreal rhwng 27 a 30 Ebrill, ynghyd â Chyfarwyddwr ein chwaer sefydliad Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Alexandra Büchler. Roedd eu hymweliad yn rhan o raglen barhaus o gyfnewid diwylliannol rhwng Québec a Chymru sydd wedi ei threfnu gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau mewn partneriaeth â gŵyl Blue Metropolis. Bwriad y rhaglen gyfnewid ‘Ysgrifennu'r Hinsawdd, Hinsawdd Ysgrifennu’ ydy dod ag awduron ynghyd i drafod perthynas pobl ag ecosystemau naturiol a diwylliannol, ac i ystyried sut caiff y berthynas hon ei hadlewyrchu mewn llenyddiaeth.