Cerdyn post o'r Senedd Fflemaidd

Ym mhob ffeil ar gyfer mynychwyr cyfarfod rhwydwaith Goudfazant yn y Senedd Fflemaidd fis Mai roedd pedwar cerdyn post gyda lluniau gan Ingrid Godon. Dyma Marie & Roos. Darganfyddais bod yr awdur Is-Almaenig, Toon Tellegen, wedi ysgrifennu testunau i gydfynd gyda chyfres o bortreadau ganddi, a bod y rhain wedi eu casglu ynghyd mewn llyfr ar gyfer oedolion a phlant fel ei gilydd. Ar bob tudalen ceir portread ac mae Tellegen yn dychmygu pa feddyliau sy'n gweu trwy feddwl bob un o'r cymeriadau. Cyfieithwyd y gyfrol i'r Ffrangeg a'r Almaeneg. Maurice Lomré bia'r cyfietihiad Ffrangeg, sy'n dwyn y teitl J'aimerais, ac a gyhoeddwyd gan wasg La Joie de Lire yn Genefa, 2013. Y teitl gwreiddiol mewn Is-Almaeneg yw Ik wou (Uitgeverij Lannoo, 2011). Mae'r rhwydwaith Goudfazant yn dwyn ynghyd sefydliadau ariannu cyfieithu ddwy waith y flwyddyn i drafod arfer da.