Profiad calonogol ydi bod yma. Cannoedd o bobl, a rheseidiau o seminarau'n trafod cyfieithu o bob math: llenyddol, cerddorol, poblogaidd, proffesiynol. Mae yma feddyliau agored, mae yma ddiddordeb, mae yma gywreinrwydd, ac mae yma awydd mawr am gyfnewid diwylliannol. Tair milltir o San Steffan, ond mae'n fydysawd arall. ANGHARAD PRICE