Mae cyhoeddwyr hefyd yn dwristiaid. Yn y llun ceir cyhoeddwyr cymrodoriaeth Schwob yn tynnu llun o Sagrada Família Gaudí. Cawsom gip o'r eglwys ym mhen draw stryd un gyda'r nos - un ymhlith nifer o bleserau annisgwyl y gymrodoriaeth ym Marcelona fis Mehefin. Trefnwyd ein cymorodoriaeth gan yr Institut Ramon Llull. Yn ein plith yr oedd cyhoeddwyr o Ffrainc, Y Swistir, Yr Eidal, Gwlad Pwyl, Rwmania, Y Ffindir, Yr Iseldiroedd, Twrci a Chymru ac aethpwyd â ni ar daith trwy glasuron modern ein gwledydd unigol yn ogystal â chlasuron Sbaen a Chatalwnia. Aethom adref yn llawn gwybodaeth, wedi cyfarfod gyda chyhoeddwyr, asiantaethau, awduron, cyfieithwyr a llyfrwerthwyr - anodd credu bod 30 siop lyfrau yn ardal Gracia Barcelona yn unig - ac wedi ein hysbrydoli gan y ddinas a'r bywyd llenyddol byw iawn sydd yno. MICK FELTON