Paldies Riga
Cyn imi bacio i fynd i Riga, gofynnwyd imi restru tri pheth roeddwn i’n ei gysylltu â Latfia. Fy ateb? Y môr Baltig, fforestydd a Black Balsam. Er mawr cywilydd imi, wyddwn i fawr ddim tu hwnt i wybodaeth arwynebol, ystrydebol. Ychydig ddyddiau cyn mynd, bûm yn brasgamu o un wefan i’r llall yn trio amsugno cymaint o wybodaeth â phosib, yn sgrolio trwy luniau, yn llithro ’mysedd hyd fapiau, yn ymarfer cyfarchion ar fy ap dysgu Latfeg.
Ond wrth imi sefyll tu allan i’r gwesty ar fore Sul yn aros am lifft yn ôl i’r maes awyr, sylweddolais na allai dim fod wedi ’mharatoi at fod yn rhan o ŵyl farddoniaeth ryngwladol Page Break a drefnir gan Madara Gruntmane, Efe Duyan a Kaspars Bērziņš. Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n llwyddo i gymryd at y ddinas lân, ffeind, addfwyn, wylaidd hon o fewn cwta chwe diwrnod. Tair wythnos yn ddiweddarach, dwi’n dal i weld yr hen dref a’i strydoedd cerrig crynion wrth imi gau fy llygaid, yn dal i deimlo angerdd annisgwyl disgyblion 16 oed at farddoniaeth a cherddi Cymraeg, yn dal i glywed lleisiau ac acenion o bob gwlad yn closio yn yr oriau mân.
Tydw i ddim yn gor-ddweud pan rwy’n dweud imi ebychu’n uchel wrth weld pwy oedd y beirdd fyddai’n rhan o’r ŵyl. Oedd, roedd ambell enw yn newydd imi, ac roedd ambell un arall yn feirdd dwi wedi’u hedmygu ers blynyddoedd lawer ac wedi darllen eu cerddi droeon. Roedd cyfarfod pawb a chael dod i’w hadnabod, cael clywed eu cerddi a’u straeon, cael rhannu llwyfan â nhw, cael sgwrsio a thrafod yn wefr wna i fyth anghofio.
‘Mae fy meddwl wedi agor, wedi’i ymestyn mor eang. Fel taswn i newydd agor map a’i ledaenu ar draws y bwrdd a dwi’n gweld tiriogaeth ddiarth o ’mlaen – llefydd sy’n aros imi eu canfod, lonydd sy’n galw fy enw, llwybrau sy’n gwneud i’r traed gosi, enwau sy’n dawnsio ar wefus, pobl sy’n gwenu arna i’n glên.’
Dyna oedd rhai brawddegau blêr yn nodiadau fy ffôn am 4.37yb ar y Sadwrn olaf yn Riga. Do, fe welais y môr Baltig a theimlo’i oerfel ar fy mochau, syllais ar y fforestydd di-ben-draw o ffenest yr awyren a daeth potel fach o Black Balsam yn ôl yn y bag efo fi. Ond mae Riga yn golygu llawer iawn mwy na hynny imi erbyn hyn. Heb os, mae Madara, Efe a Kaspars wedi creu rhywbeth arbennig iawn a dwi’n hynod ddiolchgar i’r tri, i’r beirdd, i Riga a’i phobl ac i Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau am y cyfle. Paldies.